Cysylltwch â ni
Ysgol Bro Llifon
Groeslon,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL54 7DT
Rhif Ffôn: 01286 831033
Ebost: Ysgol Bro Llifon


Ysgol Bro Llifon
Groeslon,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL54 7DT
Rhif Ffôn: 01286 831033
Ebost: Ysgol Bro Llifon
Presenoldeb
Yn Ysgol Bro Llifon, rydym yn ystyried presenoldeb a phrydlondeb yn bethau
pwysig iawn er mwyn i'ch plentyn/plant fanteisio'n llawn ar addysg a bywyd yr
ysgol. Mae'n bwysig bod y plant yma'n rheolaidd cyn 9.00 er mwyn cychwyn ar
ddiwrnod cyffrous arall yn brydlon.
Absenoldebau
Yn Ysgol Bro Llifon, rydym yn ystyried presenoldeb a phrydlondeb yn bethau
pwysig iawn er mwyn i'ch plentyn/plant fanteisio'n llawn ar addysg a bywyd yr
ysgol. Mae'n bwysig bod y plant yma'n rheolaidd cyn 9.00 er mwyn cychwyn ar
ddiwrnod cyffrous arall yn brydlon.
Rydym, wrth gwrs, yn deall bod plant yn sâl neu'n methu dod i'r ysgol am
resymau eraill yn achlysurol. Pan fo hyn yn digwydd, a fuasech cystal â:
Gofynnwn yn garedig i rieni beidio tynnu plant o'r ysgol yn ystod y tymor i fynd
ar wyliau os oes unrhyw fodd o osgoi hyn. Rhydd Corff Llywodraethol Ysgol Bro
Llifon ganiatâd i rieni dynnu eu plant o'r ysgol i fynd ar wyliau hyd at gyfnod o 10
diwrnod mewn blwyddyn. Cyn trefnu gwyliau yn ystod wythnos ysgol dylai rhieni
gael caniatâd y Pennaeth. Gall y polisi hwn newid ar fyr rybydd i gyd-fynd â
rheolau statudol y Llywodraeth. Gofynnir i rieni blwyddyn 2-6 sicrhau presenoldeb
eu plant yn ystod cyfnod y Profion Cenedlaethol (mis Mai).
Pan mae presenoldeb afreolaidd disgybl yn achosi pryder gofynnir am gymorth
Swyddog Lles Addysg.
Fe fydd y Corff Llywodraethol yn hysbysu rhieni'r ysgol yn ysgrifenedig o ganran
absenoldebau y plant gyda a heb ganiatâd h.y. gyda neu heb esboniad ysgrifenedig
am absenoldebau,yn ei Adroddiad Blynyddol i rieni.
© 2026 YSGOL BRO LLIFON | Gwefan gan Delwedd