Cysylltwch â ni
Ysgol Bro Llifon
Groeslon,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL54 7DT
Rhif Ffôn: 01286 831033
Ebost: Ysgol Bro Llifon
Ysgol Bro Llifon
Groeslon,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL54 7DT
Rhif Ffôn: 01286 831033
Ebost: Ysgol Bro Llifon
Llwyfan dysgu yw Hwb i hyrwyddo llythrennedd a rhifedd sydd yn galluogi cymuned Ysgol Bro Llifon gael mynediad i amgylchedd dysgu ar-lein diogel bob awr o’r dydd, bob diwrnod o’r flwyddyn o unrhyw ddyfais sydd wedi ei chysylltu â’r rhyngrwyd.
Mae Hwb yn darparu ardal ddysgu ar-lein ar ffurf ‘gardd â wal’ o’i chwmpas. Mae hyn yn golygu mai dim ond defnyddwyr awdurdodedig sydd wedi mewngofnodi fydd yn gallu gweld y gwaith ar y safle.
Cliciwch ar yr eicon er mwyn cael linc cyflym i Hwb.
Cofiwch ddilyn rheolau e-ddiogelwch.
Mae’n rhaid cael côd i fewngofnodi.
Dyma wefan i ddatblygu sgiliau mathemateg a rhifedd dysgwyr o bob oedran gan ddilyn gofynion y cwricwlwm. Yma ceir amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol, gemau a sialensau i chi ymarfer eich sgiliau. Gall eich athrawon weld eich sgoriau, yn ogystal â gosod tasgau penodol i chi eu cwblhau. Mae’r ysgol wedi cofrestru pob dysgwr o’r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 6 ar y wefan.
Cliciwch ar yr eicon i gael mynediad at y wefan.
Mae Reading Eggs a Reading Eggspress yn gwneud dysgu darllen yn ddiddorol ac ysgogol i blant, gyda gweithgareddau a gemau rhyngweithiol. Wrth fynd yn eich blaenau, gallwch gasglu wyau a gwobrau eraill! Bydd eich athrawon yn gallu gweld y tasgau yr ydych wedi eu cwblhau a gosod tasgau penodol i chi. Mae’r ysgol wedi cofrestru pob plentyn o’r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 6 ar y wefan.
Cliciwch ar yr eicon i gael mynediad ar y wefan.
© 2022 YSGOL BRO LLIFON | Gwefan gan Delwedd